Michelangelo
Roedd Michelangelo di Lodovico Buonarroti (6 Mawrth 1475 – 18 Chwefror 1564), a elwir yn Michelangelo, yn gerflunydd, peintiwr, pensaer a bardd o gyfnod y Dadeni Eidalaidd. Ynghyd â'i gyfoediwr a'i gyd-ddyn o Fflorens, Leonardo da Vinci, caiff Michelangelo ei ystyried fel un o "wŷr y Dadeni", dynion a all droi eu dwylo at unrhyw faes a'i feistroli'n llwyr.Fe'i ganwyd yn Caprese, ger Arezzo yn yr Eidal, yn fab i'r banciwr Ludovico di Leonardo di Buonarotto Simoni a'i wraig Francesca di Neri del Miniato di Siena.
Roedd yr athrylith hwn wedi cwblhau un o'i gampweithiau, y ''Pietà'' sydd heddiw ym Masilica Sant Pedr (''San Pietro'') yn Rhufain, cyn ei fod yn ddeg ar hugain oed, ac un arall, y cerflun o ''Dafydd'', yn ei dri degau cynnar. Er gwaetha'r ffaith ei fod yn ystyried ei hun yn gerflunydd cyn pob dim, creodd Michelangelo hefyd ddau o'r peintiadau ffresgo mwyaf dylanwadol yn hanes celf ar nenfwd a wal ddwyreiniol y Cappella Sistina (hefyd yn Rhufain). Meistrolodd Michelangelo bensaernïaeth yn ei henaint a cynlluniodd gromen San Pietro yn 70 oed. Roedd effaith yr arlunydd ar bob un o'r maesydd yma yn chwyldroadol.
Yn wahanol i lawer o artistiaid cyn y Dadeni Dysg, cydnabwyd Michelangelo fel athrylith tra'r oedd yn dal yn fyw, ac fe'i galwyd yn ''Il Divino'', "yr un dwyfol" (llysenw addas o ystyried ei fod yn ŵr crefyddol iawn). Cyhoeddwyd dau fywgraffiad ohono tra yn fyw, un gan Giorgio Vasari, cyfaill i Michelangelo, a'r llall gan Ascanio Condivi. Diolch i Vasari yn bennaf cafodd Michelangelo ei ystyried fel copa pob cyrhaeddiad yng nghelf am ganrifoedd wedi ei farwolaeth. Darparwyd gan Wikipedia
1
2
3
4
Cyhoeddwyd: 1970
5
Awduron Eraill:
“...Michelangelo Buonarroti 1475-1564...”
6
Cyhoeddwyd: 1964
Superior document: Michelangelo e la sua scuola 3
7
Cyhoeddwyd: 2004
8
Cyhoeddwyd: 1962
Superior document: Michelangelo e la sua scuola 2
9
Cyhoeddwyd: 1962
Superior document: Michelangelo e la sua scuola 1
10
Superior document: Studi / Accademia Toscana di Scienze e Lettere "La Colombaria" 8
11
Cyhoeddwyd: 1966
12
Cyhoeddwyd: 1996
Superior document: Opere giovanili di Michelangelo 5
13
Cyhoeddwyd: 1975
Superior document: Opere giovanili di Michelangelo 2
14
Superior document: Studi / Accademia Toscana di Scienze e Lettere "La Colombaria" ...
15
Cyhoeddwyd: 1923
16
Cyhoeddwyd: 2003
Superior document: Opere giovanili di Michelangelo 6
17
Cyhoeddwyd: 1992
Superior document: Opere giovanili di Michelangelo [1]
18
Cyhoeddwyd: 1981
Superior document: Opere giovanili di Michelangelo 3
19
Cyhoeddwyd: 1992
Superior document: Opere giovanili di Michelangelo 4
20
Cyhoeddwyd: 1999