Ferdinand de Saussure

Ieithydd o'r Swistir oedd Ferdinand de Saussure (26 Tachwedd 185722 Chwefror 1913). Mae'n cael ei barchu fel tad ieithyddiaeth gyfoes. Roedd ei syniadau yn sail i strwythuriaeth, theori a ddaeth yn ganolog i ieithyddiaeth yr 20g, ac a oedd yn ddylanwadol iawn mewn meysydd eraill megis anthropoleg a beirniadaeth lenyddol. Ganwyd yng Ngenefa a roedd yn ddarlithydd ym Mhrifysgol Genefa, lle traddododd gyfres o ddarlithoedd yn amlinellu ei syniadau am iaith yn ystod y blynyddoedd 1906 tan 1911. Cyhoeddwyd y darlithoedd hyn gan ei gyn-fyfyrwyr ar ôl ei farwolaeth fel ''Cwrs Ieithyddiaeth Gyffredinol'' (''Cours de linguistique générale''), llyfr pwysicaf ieithyddiaeth gyffredinol hanner cynta'r 20g. Bu farw yn Vufflens-le-Château ger Morges. Darparwyd gan Wikipedia
Dangos 1 - 1 canlyniadau o 1 ar gyfer chwilio 'de Saussure, Ferdinand,', amser ymholiad: 0.03e Mireinio'r Canlyniadau