Nicola Sturgeon

| lleoliad_geni = Irvine, Gogledd Swydd Ayr | swydd = Prif Weinidog yr Alban | dechrau_tymor = 20 Tachwedd 2014 | diwedd_tymor = 28 Mawrth 2023 | swydd2 = Dirprwy Brif Weinidog yr Alban | dechrau_tymor2 = 17 Mai 2007 | diwedd_tymor2 = 19 Tachwedd 2014 | swydd3 = Ysgrifennydd Cabinet Llywodraeth yr Alban | dechrau_tymor3 = 5 Medi 2012 | diwedd_tymor3 = 19 Tachwedd 2014 | swydd4 = Arweinydd yr SNP | dechrau_tymor4 = 14 Tachwedd 2014 | diwedd_tymor4 = | plaid = Plaid Genedlaethol yr Alban | priod = Peter Murrell | alma_mater = Prifysgol Glasgow }}

Gwleidydd o Albanes yw Nicola Sturgeon (ganwyd 19 Gorffennaf 1970) a wasanaethodd fel Prif Weinidog Llywodraeth yr Alban rhwng 2014 a 2023. Cyn hynny bu'n Ddirprwy Brif Weinidog rhwng 17 Mai 2007 a 19 Tachwedd 2014. Ar 15 Chwefror 2023 cyhoeddoedd ei fod am ymddiswyddo fel prif weinidog ac arweinydd yr SNP wedi i olynydd gael ei ethol.

Bu'n aelod o Blaid Genedlaethol yr Alban (neu'r ''SNP'') ers oedd yn 16 oed. Mae hefyd yn Arweinydd y blaid honno (a adnabyddir hefyd fel yr 'SNP') ac yn ''Ddepute'' (neu Ddirprwy) 2004-2014. Bu hefyd yn Ysgrifennydd Cabinet yr Alban dros Stategaeth y Senedd a'r Llywodraeth ac yn Ysgrifennydd y Cabinet dros Isadeiledd, Buddsoddiad a Dinasoedd. Hi yw'r Aelod Senedd yr Alban (''MSP'') dros Glasgow (Deheuol).

Ym 1999 y daeth Sturgeon yn Aelod Seneddol yn gyntaf, gan ddod yn Llefarydd yr SNP dros iawnderau ac yna dros iechyd ac addysg. Yn dilyn ymddeoliad John Swinney yn 2004 safodd yn y frwydr dros arweinyddiaeth y blaid, ond tynnodd ei henw'n ôl pan benderfynodd Alex Salmond ymgeisio a daeth yn Ddirprwy (neu ''Depute''). Safodd Salmond i lawr rhwng 2004 a 2007 a phenodwyd Sturgeon yn Arweinydd nes y daeth Salmond yn ei ôl i gymryd yr awenau yn etholaeth cyffredinol 2007 pan enillodd yr SNP fwy o seddau nac unrhyw blaid arall yn yr Alban. Apwyntiwyd Salmond yn Brif Weinidog ac apwyntiodd ef ei Ddirprwy: Sturgeon. Darparwyd gan Wikipedia
Dangos 1 - 1 canlyniadau o 1 ar gyfer chwilio 'Sturgeon, Nicola,', amser ymholiad: 0.02e Mireinio'r Canlyniadau