Talcott Parsons

Cymdeithasegwr Americanaidd oedd Talcott Parsons (13 Rhagfyr 19028 Mai 1979) sydd yn nodedig am ei ddamcaniaeth gweithredu gwirfoddol.

Ganed yn Colorado Springs, Colorado, Unol Daleithiau America. Wedi iddo dderbyn ei radd baglor o Goleg Amherst, Massachusetts, ym 1924, astudiodd yn Ysgol Economeg Llundain a Phrifysgol Heidelberg. Enillodd ei ddoethuriaeth o Heidelberg ym 1927. Gweithiodd Parsons yn diwtor economeg ym Mhrifysgol Harvard cyn dechrau addysgu cymdeithaseg yno ym 1931. Fe'i penodwyd yn athro ym 1944, ac ym 1946 yn gadeirydd ar yr adran newydd i astudio cysylltiadau cymdeithasol. Bu yn y swydd honno nes 1956, a gweithiodd yn Harvard nes iddo ymddeol ym 1973. Bu farw ym München, Gorllewin yr Almaen, yn 76 oed. Darparwyd gan Wikipedia
Dangos 1 - 5 canlyniadau o 5 ar gyfer chwilio 'Parsons, Talcott 1902-1979', amser ymholiad: 0.02e Mireinio'r Canlyniadau