Theodor Mommsen

Hanesydd, ieithegwr ac archaeolegydd Almaenig oedd Christian Matthias Theodor Mommsen (; 30 Tachwedd 18171 Tachwedd 1903).

Penodwyd yn athro'r gyfraith sifil ym Mhrifysgol Leipzig ym 1848, ond yn fuan fe gollodd ei swydd oherwydd ei gefnogaeth i Chwyldroadau 1848. Aeth i addysgu cyfraith Rufain yn Zürich a Breslau, ac ym 1858 daeth yn athro hanes yr henfyd ym Mhrifysgol Berlin. Yn sgil uno'r Almaen ym 1870, siaradodd yn gyhoeddus yn erbyn polisïau Otto von Bismarck.

Ei gampwaith yw'r tair cyfrol ar hanes Rhufain hynafol. Sail y clasur hwn yw ymchwil yr awdur i arysgrifau, ddarnau arian, a llenyddiaeth y cyfnod. Ysgrifennodd hefyd ar gyfraith Rufain ac archaeoleg. Enillodd Wobr Lenyddol Nobel ym 1902. Darparwyd gan Wikipedia
Dangos 1 - 20 canlyniadau o 97 ar gyfer chwilio 'Mommsen, Theodor 1817-1903', amser ymholiad: 0.03e Mireinio'r Canlyniadau