Franz Kafka

Llenor yn ysgrifennu yn Almaeneg oedd Franz Kafka (3 Gorffennaf 1883 - 3 Mehefin 1924).

Ganwyd yn ninas Prâg, oedd yr adeg honno yn rhan o Awstria-Hwngari, i deulu Iddewig dosbarth-canol. Almaeneg oedd ei famiaith. O 1889 hyd 1893, aeth i'r ''Deutsche Knabenschule'', ysgol elfennol i fechgyn, ac oddi yno i'r ''Altstädter Deutsches Gymnasium'', gan gymeryd ei arholiad Maturita yn 1901.

Aeth i Brifysgol Charles-Ferdinand ym Mhrâg, lle dechreuodd astudio cemeg cyn newid i'r gyfraith ymhen pythefnos. Graddiodd yn 1906, ac aeth i weithio i gwmni yswiriant yn 1907. Yn y cyfnod yma, dyfeisiodd yr het galed i weithwyr diwydiannol, ac enillodd fedal am hyn. Yn 1923, symudodd i Berlin i ganolbwyntio ar ysgrifennu. Roedd wedi bod yn dioddef o'r diciau ers 1917, a chyn hir dychwelodd i Prâg cyn mynd i sanatoriwm yn Kierling ger Vienna lle bu farw yn 1924. Darparwyd gan Wikipedia
Dangos 1 - 20 canlyniadau o 33 ar gyfer chwilio 'Kafka, Franz 1883-1924', amser ymholiad: 0.03e Mireinio'r Canlyniadau