Johann Gottfried von Herder

Athronydd, diwinydd, a beirniad Almaenig oedd Johann Gottfried von Herder (25 Awst 174418 Rhagfyr 1803) a oedd yn brif feddyliwr y mudiad ''Sturm und Drang'' ac yn ffigur blaenllaw yn yr Oleuedigaeth yn y gwledydd Almaeneg. Cafodd ddylanwad pwysig ar ddechrau'r cyfnod Rhamantaidd, a fe'i ystyrir yn gyfrifol am hebrwng damcaniaethau esthetaidd a llenyddol Johann Wolfgang von Goethe, y brodyr Schlegel, a'r brodyr Grimm, athroniaeth iaith Wilhelm von Humboldt, athroniaeth hanes G. W. F. Hegel, epistemoleg Wilhelm Dilthey, anthropoleg Arnold Gehlen, a syniadaeth wleidyddol y cenedlaetholwyr Slafaidd. Darparwyd gan Wikipedia
Dangos 1 - 20 canlyniadau o 28 ar gyfer chwilio 'Herder, Johann Gottfried von 1744-1803', amser ymholiad: 0.04e Mireinio'r Canlyniadau