Ruth Bader Ginsburg

Roedd Ruth Bader Ginsburg (ganwyd Joan Ruth Bader; 15 Mawrth 193318 Medi 2020) yn farnwr yng Ngoruchaf Lys yr Unol Daleithiau. Ymgyrchodd dros hawliau menywod.

Cafodd ei geni yn Brooklyn, yn ferch i Celia (née Amster) a Nathan Bader. Cafodd ei addysg yn yr ysgol James Madison ac ym Mhrifysgol Cornell. Priododd y cyfreithwr Martin D. Ginsburg ym 1954. Roedd ganddyn nhw ddau blentyn, Jane a James.

Sefydlodd y cylchgrawn ''Women's Rights Law Reporter'' ym 1970, a'r Prosiect Hawliau Menywod ym 1972.

Hi oedd y barnwr hynaf ar y llys pan fu farw. Darparwyd gan Wikipedia
Dangos 1 - 2 canlyniadau o 2 ar gyfer chwilio 'Ginsburg, Ruth Bader,', amser ymholiad: 0.03e Mireinio'r Canlyniadau