Émile Durkheim

Cymdeithasegydd Ffrengig oedd Émile Durkheim (15 Ebrill 185815 Tachwedd 1917). Ystyrir ei waith yn allweddol o ran gosod sylfeini cymdeithaseg ac anthropoleg. Bu'n olygydd y cylchgrawn cymdeithasegol cyntaf, ''L'Année Sociologique'', a bu'n darlithio ac ysgrifennu ar bynciau megis addysg, trosedd, crefydd, hunanladdiad a nifer o agweddau eraill ar gymdeithaseg.

Ganed ef yn nhalaith Lorraine yn nwyrain Ffrainc i deulu Iddewig; bu ei dad, ei daid a'i hen daid yn dal swydd rabbi. Ystyriai ef ei hun mai ffenomenen gymdeithasol oedd crefydd.

Aeth i'r École Normale Supérieure yn 1879, yr un flwyddyn a Jean Jaurès a Henri Bergson. Treuliodd flwyddyn yn astudio yn yr Almaen cyn cael swydd darlithydd yng ngholeg hyfforddi athrawon cyntaf Ffrainc yn Bordeaux yn 1887. Dechreuodd gyhoeddi traethodau yn y 1890au. Yn 1902 daeth yn Athro addysg yn y Sorbonne. Darparwyd gan Wikipedia
Dangos 1 - 9 canlyniadau o 9 ar gyfer chwilio 'Durkheim, Émile 1858-1917', amser ymholiad: 0.03e Mireinio'r Canlyniadau