Marlene Dietrich
Actores a chantores Americanaidd, yn enedigol o'r Almaen, oedd Marie Magdalene Dietrich neu Marlene Dietrich (27 Rhagfyr 1901 – 6 Mai 1992).Ganed hi yn Schöneberg, rhanbarth o ddinas Berlin. Bu'n gweithio yn y theatr ym Merlin yn y 1920au, a phriododd â Rudolf Sieber ym Mai 1923. Ganed ei hunig blentyn, Maria, y flwyddyn ganlynol. Daeth yn enwog drwy ei rhan yn y ffilm ''Der blaue Engel'' ("Yr Angel Las", 1930). Yn fuan wedyn aeth i Hollywood. Ymddangosodd mewn nifer o ffilmiau adnabyddus megis ''Morocco'', ''Dishonored'', ''Shanghai Express'', ''Blonde Venus'', ''The Scarlet Empress'' a ''The Devil is a Woman''. O ddechrau'r 1950au hyd ganol yr 1970au bu'n gweithio mewn cabarét. Treuliodd ei blynyddoedd olaf ym Mharis, lle bu farw. Darparwyd gan Wikipedia
1
Cyhoeddwyd: 2008
Links: Crynodeb