Marco Carynnyk

Bardd, hanesydd, golygydd, a chyfieithydd Wcreinaidd a anwyd yn yr Almaen yw Marco Carynnyk (; ganwyd 1944) sydd wedi treulio'i fywyd yn Unol Daleithiau America a Chanada. Mae'n medru Wcreineg, Saesneg, Almaeneg, Rwseg, a Phwyleg.

Cafodd ei eni ym Merlin ar ddiwedd yr Ail Ryfel Byd. Treuliodd cyfnod mewn gwersyll i bobl a oedd wedi'u dadleoli'n fewnol yn Augsburg, Awstria, cyn i'w deulu symud i Philadelphia yn yr Unol Daleithiau. Symudodd i Toronto, Canada, ar ddiwedd y 1960au. Fe'i cysylltir â charfan o feirdd modernaidd Wcreineg yn Efrog Newydd, a chyhoeddodd sawl cerdd mewn cyfnodolion yn y 1970au a dechrau'r 1980au.

Mae Carynnyk wedi cyhoeddi nifer o weithiau academaidd ar bynciau'r Holodomor, yr Holocost, pogromau, ac hanes yr Wcreiniaid a'r Iddewon yn Nwyrain Ewrop. Mae hefyd wedi ysgrifennu am ffilm ac wedi cyfieithu ysgrifeniadau'r gwneuthurwr ffilmiau Sofietaidd Alexander Dovzhenko. Darparwyd gan Wikipedia
Dangos 1 - 1 canlyniadau o 1 ar gyfer chwilio 'Carynnyk, Marco,', amser ymholiad: 0.02e Mireinio'r Canlyniadau