Thomas Bach

Cyn-glefyddwr Almaenig yw Thomas Bach (ganwyd 29 Rhagfyr 1953) sydd wedi gwasanaethu yn swydd Llywydd y Pwyllgor Olympaidd Rhyngwladol ers 2013.

Ganwyd Bach yn ninas Würzburg yn ne'r Almaen. Enillodd fedal aur am gleddyfa (ffwyl tîm) yng Ngemau Olympaidd yr Haf 1976. Daeth yn aelod o'r Pwyllgor Olympaidd Rhyngwladol ym 1991 a gwasanaethodd yn swydd is-lywydd teirgwaith. Roedd yn gadeirydd comisiwn cyfreithiol y pwyllgor.

Etholwyd Bach yn nawfed Lywydd y Pwyllgor Olympaidd Rhyngwladol ar 10 Medi 2013, gan olynu Jacques Rogge. Darparwyd gan Wikipedia
Dangos 1 - 1 canlyniadau o 1 ar gyfer chwilio 'Bach, Thomas,', amser ymholiad: 0.02e Mireinio'r Canlyniadau