Edward Abbey

Llenor ac ecolegwr Americanaidd oedd Edward Abbey (29 Ionawr 192714 Mawrth 1989) sydd yn nodedig am ei nofelau a leolir yn Ne Orllewin yr Unol Daleithiau ac am ei ysgrifau sydd yn mynegi athroniaeth amgylcheddol radicalaidd ac anarchaidd. Fe'i gelwir weithiau yn "Thoreau y De Orllewin".

Ganed ym mwrdeistref Indiana, Pennsylvania, a chafodd ei fagu mewn pentref cyfagos o'r enw Home. Ffermwr oedd ei dad, Paul Revere Abbey. Gadawodd Edward Abbey ei gartref yn Home yn 17 oed er mwyn bodio'i ffordd a theithio ar y wagen ar draws yr Unol Daleithiau, tua'r gorllewin i ddiffeithwch y Pedair Cornel (taleithiau Utah, Colorado, Arizona, a New Mexico). Derbyniodd ei radd baglor o Brifysgol New Mexico ym 1951, a'i radd meistr o'r brifysgol honno ym 1956 ar bwnc "Anarchiaeth a Moesoldeb Trais". Gweithiodd yn goedwigwr ac yn wyliwr tân i'r Gwasanaeth Parciau Cenedlaethol yn y 1950au a'r 1960au. Wrth ei waith, magai berthynas fynwesol â thirwedd a bywyd gwyllt rhanbarth y De Orllewin.

Ei dair nofel gyntaf oedd ''Jonathan Troy'' (1954), ''The Brave Cowboy'' (1956), a ''Fire on the Mountain'' (1962). Daeth yn amlwg yn sgil cyhoeddi ''Desert Solitaire: A Season in the Wilderness'' (1968), ei atgofion fel ceidwad parc yng nghefn gwlad Utah, a ystyrir yn glasur o lenyddiaeth natur.

Mae ei nofel enwocaf, ''The Monkey Wrench Gang'' (1975), yn ymwneud â phedwar amgylcheddwr sydd yn ceisio dinistrio Argae Ceunant Glen, yng ngogledd Arizona, gyda bom. Disgrifiodd Abbey y llyfr hwn yn stori ddychanol, ond cafodd ei feirniadu am ddisgrifio'n fanwl sut i ddifrodi eiddo yn fwriadol. O ganlyniad i ''The Monkey Wrench Gang'', condemniwyd Abbey yn derfysgwr ac yn anarchydd peryglus gan gadwraethwyr sefydledig ac yn feddyliwr ysbrydoledig gan ecolegwyr y gwrthddiwylliant. Sefydlwyd y mudiad radicalaidd Earth First! ym 1980 gan griw o ymgyrchwyr ifanc a oedd yn edmygu gwaith Abbey, a'r nofel hon yn enwedig. Rhoddwyd yr enw ''monkey-wrenching'' ar dacteg o ddefnyddio difrod bwriadol er mwyn amddiffyn yr amgylchedd.

Bu farw Edward Abbey yn Tucson, Arizona, o glefyd cylchredol yn 62 oed. Darparwyd gan Wikipedia
Dangos 1 - 2 canlyniadau o 2 ar gyfer chwilio 'Abbey, Edward,', amser ymholiad: 0.03e Mireinio'r Canlyniadau