Francesco Petrarca

Bardd, awdur ac ysgolhaig Eidalaidd oedd Francesco Petrarca, hefyd Pertrarch (20 Gorffennaf 1304 - 19 Gorffennaf 1374). Ystyrir ef yn un o ffigyrau amlycaf y Dadeni Dysg yn yr Eidal a sylfaenydd Dyneiddiaeth.

Cafodd ei eni yn Arezzo. Roedd ei dad wedi ei alltudio o Fflorens gyda Dante fel un o arweinwyr y Welfiaid, a threuliodd Petrarca ei ieuenctod yn Avignon. Astudiodd ym Montpellier (1319-1323) cyn astudio'r gyfraith yn Bologna o 1323 hyd 1325. Daeth yn gyfeillgar a Giovanni Boccaccio. Yn 1326, wedi marwolaeth ei dad, dychwelodd i Avignon, lle parhaodd i astudio'r clasuron Lladin.

Er ei fod ef ei hun yn ystyried mai ei weithiau athronyddol mewn Lladin oedd ei weithiau pwysicaf, daeth yn enwog am ei gerddi mewn Eidaleg, y ''Canzoniere'', yn enwedig ei gerddi serch i "Laura". Galwyd y soned Betrarchaidd ar ei ôl. Darparwyd gan Wikipedia
Dangos 1 - 11 canlyniadau o 11 ar gyfer chwilio 'Petrarca, Francesco 1304-1374', amser ymholiad: 0.08e Mireinio'r Canlyniadau